Hafan Amdanom ni Arweinyddes Dyddiadur Lluniau Cysylltwch â ni
Côr cymysg Cymraeg yw Côr Cwm Ni sy’n cwrdd yng nghanol Cwm Rhymni. Yn mwynhau enw da am gyflwyno perfformiadau proffesiynol yn yr ardal ac ymhellach, mae’r côr wedi ennill nifer o wobrau ar hyd yr amser am ei berfformiadau.
Sefydlwyd y côr yn 2003 ac mae bellach yn gôr o 30 o leisiau. Yn canu amrywiaeth o ganeuon cyfoes a thraddodiadol - yn bennaf yn y Gymraeg – mae’r aelodau i gyd yn dod o, neu’n gweithio yng Nghwm Rhymni.
Mae mwynhau tra’n canu yn sicr yn un o flaenoriaethau’r côr cymdeithasol hwn - sydd yn cael ei arwain gan Carys Crimmings - ac maent wedi cyfuno hyn gyda ddarparu perfformiadau ar lefel cystadleuol. Maent wedi ennill yn Eisteddfod y Cymoedd yn 2007 a 2008 ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 2004.

Bod blwyddyn, mae’r côr yn perfformio dros y cwm mewn nifer o ddigwyddiadau fel mewn cyngherddau cymunedol ac elusennol ac achlysuron teuluol megis priodasau. Gofynnir iddynt hefyd ganu yn aml ar y llwyfan Tesco yng Nghanolfan y Mileniwm ac yn 2009 buont yn perfformio yn y Caws Mawr poblogaidd a gynhelir yng Nghaerffili.
Hefyd yn 2009, cafodd Côr Cwm Ni y cyfle cyffrous i deithio tramor am y tro cyntaf i ganu. Cynrychiolodd y côr Sir Caerffili yng ngefeilldrefi Caerffili a Llanbradach, sef Lannion a Plouberze, yn Llydaw, ac fe gawsant y cyfle i gynnal cyngerdd mewn lleoliad llawer pellach na’r arfer. Roedd y daith yn sicr yn llwyddiant ysgubol a gobaith y côr yw mai dyma’r gyntaf o nifer o deithiau tramor iddynt.
Cynigia’r côr hefyd gyfle i’w aelodau gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghwm Rhymni. Mae ystod oedran eang yn y côr hefyd – gyda’r aelod ifancaf yn 18 oed tra bod yr aelod hynaf bron yn ddigon hen i dderbyn tocyn bws am ddim!
Mae’r côr bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd felly os ydych yn soprano, alto, tenor neu fâs a bod diddordeb gennych i ymuno â ni, Cysylltwch â ni.
Mae Côr Cwm Ni hefyd yn croesawu dysgwyr Cymraeg i ymuno gan fod ymarferion, perfformiadau a digwyddiadau cymdeithasol yn rhoi’r cyfle delfrydol iddynt i ymarfer y Gymraeg.